Gordaliadau budd-dal
Trosolwg
Dywedwch wrth y swyddfa sy’n delio â’ch budd-dal os:
- rydych yn credu eich bod yn cael eich gordalu
- bydd eich amgylchiadau’n newid
Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r budd-dal os ydych wedi cael eich gordalu.
Mae yna broses gwahanol am gordaliad credydau treth.
Efallai y byddwch yn cael eich erlyn am dwyll budd-dal neu orfod talu cosb os nad ydych yn dweud wrth ddarparwyr budd-dal am ordaliadau.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Os ydych wedi’ch gordalu am Gredyd Cynhwysol
Gallwch roi gwybod am ordaliad trwy llofnodi i mewn i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol neu ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol.
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn):
18001 yna 0800 328 1744
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 328 5644
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Pryd bydd y swyddfa budd-daliadau yn cysylltu â chi
Byddwch yn cael llythyr i ddweud wrthych eich bod wedi cael eich gordalu.
Os ydych yn credu ei fod yn gamgymeriad gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol o fewn mis i gael y llythyr hwn.
Budd-dal Tai a delir yn uniongyrchol i’ch landlord
Efallai y gofynnir i’ch landlord ad-dalu’r arian os ydynt yn gyfrifol am y gordaliad. Efallai y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu, os mai chi sydd ar fai.