Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y cyflogwr
Trosolwg
Mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau gwaith rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion, megis ffôn symudol y cwmni.
Mae’n rhaid i chi hefyd eu talu ar daliadau dros £30,000 yr ydych yn eu gwneud i gyflogeion pan fo’u cyflogaeth yn dod i ben, megis taliad diswyddo (‘dyfarniadau terfynu’).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar ddyfarniadau terfynu dim ond os nad ydych eisoes wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 arnynt.
Mae yna arweiniad gwahanol ar dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar dystebau chwaraeon.
Pryd i dalu
Mae pryd rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn dibynnu a ydynt yn fuddiannau gwaith neu’n ddyfarniadau terfynu.
Buddiannau gwaith
Mae angen i chi dalu cyfraniadau ar fuddiannau gwaith cyn pen 22 Gorffennaf bob blwyddyn ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol. Bydd angen i chi dalu erbyn 19 Gorffennaf os ydych yn talu drwy’r post.
Dyfarniadau Terfynu
Rydych yn talu cyfraniadau ar ddyfarniadau terfynu drwy TWE.
Talu cyfraniadau ar fuddiannau gwaith ar-lein
Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:
-
cymeradwyo gan ddefnyddio’ch cyfrif banc
-
Debyd Uniongyrchol (talu’n awtomatig, neu daliad unigol)
-
cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Dulliau eraill o dalu cyfraniadau ar fuddiannau gwaith
Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau os ywʼch taliad yn hwyr.
Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.
Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
-
bancio ar-lein neu dros y ffôn gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach neu CHAPS
3 diwrnod gwaith
-
Debyd Uniongyrchol (os ydych wedi trefnu un gyda CThEF yn flaenorol)
-
bancio ar-lein neu dros y ffôn drwy Bacs
-
yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
5 diwrnod gwaith
- Debyd Uniongyrchol (os nad ydych wedi trefnu un gyda CThEF yn flaenorol)
Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, mae’n rhaid i’ch taliad gyrraedd cyfrif banc CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu ar-lein neu dros y ffôn gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach.).