Sut mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo cynhaliaeth plant
Sut mae cynhaliaeth plant yn cael ei gyfrifo
Mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant fel arfer yn dilyn 6 cham i gyfrifo’r swm wythnosol o gynhaliaeth plant.
Mae’r canllaw yma hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae’r cyfrifydd cynhaliaeth plant yn dangos i chi beth mae’r Llywodraeth yn debygol o’i gyfrifo i chi.
Cam 1 - cyfrifo incwm
Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn darganfod incwm blynyddol gros y rhiant sy’n talu cynhaliaeth o’r wybodaeth a ddarparwyd gan Gyllid a Thollau EM (HMRC).
Byddant hefyd yn gwirio os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn cael budd-daliadau (nid yw credydau treth, grantiau myfyrwyr a benthyciadau yn cyfrif fel incwm).
Nid oes gan y ‘rhiant sy’n talu cynhaliaeth’ brif ofal o ddydd i ddydd o’r plentyn. Y ‘rhiant sy’n cael cynhaliaeth sydd gyda phrif ofal o ddydd i ddydd o’r plentyn.
Cam 2 - edrych ar bethau sy’n effeithio ar incwm
Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gwirio am bethau a allai newid swm yr incwm gros (er enghraifft, taliadau pensiwn neu blant eraill y maent yn eu cefnogi).
Gallwch hefyd ofyn bod incwm, asedau neu dreuliau ychwanegol yn cael eu hystyried.
Yna byddant yn trosi’r incwm blynyddol gros i ffigwr wythnosol.
Cam 3 - cyfraddau cynhaliaeth plant
Bydd un o 5 cyfradd yn cael ei chymhwyso, yn seiliedig ar incwm wythnosol gros y rhiant sy’n talu cynhaliaeth:
Incwm wythnosol gros | Cyfradd | Swm wythnosol |
---|---|---|
Anhysbys neu heb ei ddarparu | Diffyg | £38 ar gyfer 1 plentyn, £51 ar gyfer 2 blentyn, £64 ar gyfer 3 neu fwy o blant |
O dan £7 | Sero | £0 |
£7 i £100, neu os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn cael budd-daliadau | Unffurf | £7 |
£100.01 i £199.99 | Is | Cyfrifwyd gan ddefnyddio fformiwla |
£200 i £3,000 | Sylfaenol | Cyfrifwyd gan ddefnyddio fformiwla |
Os yw incwm wythnosol gros y rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn fwy na £3,000, gall y rhiant sy’n cael cynhaliaeth wneud cais i’r llys am gynhaliaeth plant ychwanegol.
Cam 4 - plant eraill
Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ystyried y nifer o blant y mae’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn gorfod talu cynhaliaeth plant ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys unrhyw blant eraill sy’n byw gyda nhw ac unrhyw drefniadau sydd wedi’u gwneud yn uniongyrchol ar gyfer plant eraill.
Cam 5 - swm wythnosol o gynhaliaeth plant
Gan ddefnyddio gwybodaeth o’r 4 cam cyntaf, mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn penderfynu’r swm cynhaliaeth plant wythnosol
Cam 6 - rhannu gofal
Dyma pryd mae plentyn rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn aros dros nos gyda nhw.
Yn yr achosion hyn, mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gwneud didyniad i’r swm cynhaliaeth plant wythnosol yn seiliedig ar y nifer ar gyfartaledd o nosweithiau ‘rhannu gofal’ yr wythnos.