Lwfans Gofalwr

Printable version

1. Sut mae’n gweithio

Gallwch gael £76.75 yr wythnos os ydych yn gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac maent yn cael budd-daliadau penodol.

Nid oes rhaid i chi fod yn perthyn i, neu’n byw gyda’r person rydych yn gofalu amdano.

Ni chewch fwy o dâl os ydych yn gofalu am fwy nag un person.

Os yw rhywun arall hefyd yn gofalu am yr un person â chi, dim ond un ohonoch gaiff hawlio Lwfans Gofalwr.

Gall Lwfans Gofalwr effeithio ar y budd-daliadau rydych chi a’r person rydych yn gofalu amdano yn eu cael. Mae rhaid i chi dalu treth arno os yw eich incwm dros y Lwfans Personol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn ffurf hawdd i’w ddarllen.

Sut cewch eich talu

Gallwch ddewis i gael eich talu’n wythnosol o flaen llaw neu bob 4 wythnos.

Bydd yn cael ei dalu i mewn i gyfrif, er enghraifft eich cyfrif banc.

Beth arall gallwch ei gael

Am bob wythnos rydych yn cael Lwfans Gofalwr byddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig.

Efallai y gallwch hefyd wneud cais am:

Os ydych yn byw yn yr Alban

Os ydych yn byw yn yr Alban ac yn cael Lwfans Gofalwr, efallai y gallwch hefyd gael Atodiad Lwfans Gofalwr.

Os ydych yn byw yn Ninas Dundee, Perth a Kinross neu Ynysoedd y Gorllewin, mae angen i chi wneud cais am Daliad Cymorth i Ofalwyr yn lle Lwfans Gofalwr.

Os ydych yn cael Lwfans Gofalwr ar hyn o bryd

Byddwch yn cael eich symud yn awtomatig i Daliad Cymorth Gofalwr erbyn gwanwyn 2025.

Pan fydd y symud yn dechrau, byddwch yn cael llythyrau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a Nawdd Cymdeithasol yr Alban.

Darganfyddwch fwy am y newid o Lwfans Gofalwr i Daliad Cymorth Gofalwr.

Os ydych yn symud o’r Alban i Gymru neu Loegr

Os ydych yn cael Taliad Cymorth Gofalwr, rhaid i chi:

Bydd eich Taliad Cymorth Gofalwr yn dod i ben 13 wythnos ar ôl i chi symud. Gwnewch gais newydd am Lwfans Gofalwr cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd Cymru neu Loegr. Os byddwch yn oedi, gallai hyn effeithio ar eich taliadau.

2. Cymhwyster

Gallech fod yn gymwys i Lwfans Gofalwr os ydych chi, y person rydych yn gofalu amdano, a’r math o ofal rydych yn ei rhoi yn bodloni meini prawf penodol.

Y person rydych yn gofalu amdano

Mae rhaid i’r person rydych yn gofalu amdano fod yn cael un o’r budd-daliadau hyn eisoes:

  • Taliad Annibyniaeth Personol - yr elfen bywyd bob dydd
  • Lwfans Byw i’r Anabl - y gyfradd ganol neu uchaf o’r elfen gofal
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gweini Cyson ar neu’n uwch na’r gyfradd mwyafswm arferol gyda Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Gweini Cyson ar y gyfradd sylfaenol (diwrnod llawn) gyda Phensiwn Anabledd Rhyfel
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Taliad Anabledd Plentyn - y gyfradd ganol neu uchaf o’r elfen gofal
  • Taliad Anabledd Oedolion - elfen bywyd bob dydd ar y gyfradd safonol neu uwch

Os ydych yn gofalu am y person gydag eraill

Ni allwch gael Lwfans Gofalwr os ydych yn rhannu gofal rhywun a bod y gofalwr arall eisoes yn hawlio:

Os ydych am gael Lwfans Gofalwr, siaradwch â’r gofalwr arall ynghylch newid eu budd-daliadau.

Os nad yw’r gofalwr arall eisiau gwneud hynny, gallwch wneud cais am Lwfans Gofalwr o hyd. Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fydd yn penderfynu pwy ddylai dderbyn y budd-dal.

Y math o ofal rydych yn ei roi

Mae’n rhaid eich bod yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun. Gall hyn gynnwys:

  • helpu â golchi a choginio
  • mynd â’r person rydych yn gofalu amdano i apwyntiad meddyg
  • helpu â thasgau yn y cartref, fel rheoli biliau a siopa

Eich cymhwyster

Mae’n rhaid i bob un o’r canlynol fod yn berthnasol:

  • rydych yn 16 oed neu drosodd
  • rydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun
  • rydych wedi bod yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban am o leiaf 2 o’r 3 blynedd ddiwethaf (nid yw hyn yn berthnasol os ydych yn ffoadur neu os oes gennych statws amddiffyniad dyngarol)
  • rydych fel arfer yn byw yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban, neu rydych yn byw dramor fel aelod o’r lluoedd arfog (efallai y byddwch yn parhau i fod yn gymwys os ydych yn symud i neu eisoes yn byw mewn gwlad o’r AEE neu’r Swistir)
  • nid ydych mewn addysg llawn amser
  • nid ydych yn astudio am 21 awr neu fwy yr wythnos
  • nid ydych yn destun i reolaeth mewnfudo
  • mae eich enillion yn £139 neu’n llai yr wythnos ar ôl treth, Yswiriant Gwladol, a threuliau

Os ydych yn byw yn Ninas Dundee, Perth a Kinross neu Ynysoedd y Gorllewin, mae angen i chi wneud cais am Daliad Cymorth i Ofalwyr yn lle Lwfans Gofalwr.

Os ydych o’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, fel rheol mae angen statws sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog i chi a’ch teulu o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE i gael Lwfans Gofalwr. Y dyddiad cau i wneud cais i’r cynllun oedd 30 Mehefin 2021 i’r mwyafrif o bobl, ond efallai y byddwch chi’n dal i allu gwneud cais. Gwiriwch a allwch barhau i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE.

Os yw eich enillion weithiau dros £139 yr wythnos gallech fod yn gymwys i Lwfans Gofalwr o hyd. Efallai bydd eich enillion ar gyfartaledd yn cael ei gyfrifo i weithio allan a ydych yn gymwys.

Cyfrifo eich enillion

Eich enillion yw unrhyw incwm o gyflogaeth neu hunangyflogaeth ar ôl treth, yswiriant gwladol, a threuliau.

Gall treuliau gynnwys:

  • 50% o’ch cyfraniadau pensiwn
  • offer sydd ei angen arnoch i wneud eich gwaith, er enghraifft dillad arbenigol
  • costau teithio rhwng gwahanol weithleoedd nad ydynt yn cael eu talu gan eich cyflogwr, er enghraifft costau tanwydd neu drên
  • costau busnes os ydych yn hunangyflogedig, er enghraifft cyfrifiadur rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer gwaith yn unig

Os ydych yn talu gofalwr i ofalu am y person anabl neu’ch plant tra byddwch yn gweithio, gallwch drin costau gofal sy’n llai na neu’n gyfartal i 50% o’ch enillion fel treuliau. Ni ddylai’r gofalwr fod eich priod, eich partner, eich rhiant, neu’n blentyn na brawd neu chwaer i chi.

Enghraifft Rydych yn ennill £100 yr wythnos (ar ôl treth, Yswiriant Gwladol, a threuliau eraill) ac yn gwario £60 yr wythnos ar ofal tra rydych yn gweithio. Gallwch drin £50 o hyn fel treuliau.

Mae taliadau nad ydynt yn cyfrif fel enillion yn cynnwys:

  • arian a dderbynir o bensiwn galwedigaethol neu breifat
  • cyfraniadau tuag at eich costau byw neu lety gan rywun rydych yn byw gyda hwy (ni allant fod yn denant neu’n lletÿwr)
  • y £20 cyntaf yr wythnos a 50% o weddill unrhyw incwm a wnewch gan rywun sy’n lletya yn eich cartref
  • benthyciad neu daliad ymlaen llaw gan eich cyflogwr

Os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth

Ni allwch gael swm llawn o Lwfans Gofalwr a’ch Pensiwn y Wladwriaeth ar yr un pryd.

Os yw eich pensiwn yn £76.75 yr wythnos neu’n fwy, ni chewch daliad Lwfans Gofalwr.

Os yw eich pensiwn yn llai na £76.75 yr wythnos, cewch daliad Lwfans Gofalwr i wneud y gwahaniaeth i fyny.

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn

Os yw eich Pensiwn y Wladwriaeth yn fwy na £76.75 yr wythnos ni chewch daliad Lwfans Gofalwr ond caiff eich Credyd Pensiwn ei gynyddu yn lle.

Os nad ydych yn gymwys

Efallai y byddwch yn gymwys am Gredyd Gofalwr os nad ydych yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr.

3. Effaith ar fudd-daliadau eraill

Gall Lwfans Gofalwr effeithio ar y budd-daliadau eraill rydych chi a’r person rydych yn gofalu amdano yn eu cael.

Effaith ar fudd-daliadau’r person rydych yn gofalu amdano

Pan fyddwch yn cael Lwfans Gofalwr bydd y person rydych yn gofalu amdano fel arfer yn stopio cael:

Gallwch wirio a fydd eu taliad anabledd difrifol yn dod i ben trwy gysylltu â phwy bynnag sy’n talu’r budd-dal hwn. Fel arfer, hyn yw’r Ganolfan Byd Gwaith, eu cyngor-lleol, Llinell Gymorth y Gwasanaeth Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol.

Efallai bydd hefyd yn stopio cael gostyngiad yn eu Treth Cyngor. Cysylltwch â’u cyngor lleol i weld a yw hyn yn effeithio arnynt.

Effaith ar eich budd-daliadau chi

Pan fyddwch yn gwneud cais am Lwfans Gofalwr gallai eich budd-daliadau eraill newid, ond fel arfer bydd cyfanswm eich taliadau budd-dal naill ai’n codi neu’n aros yr un fath.

Ni fyddwch yn cael eich effeithio gan y cap ar fudd-daliadau.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weithio allan sut y bydd eich budd-daliadau eraill yn cael eu heffeithio.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau gan swm sy’n hafal i’ch taliad Lwfans Gofalwr.

Efallai y cewch swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol am ofalu am berson sydd ag anabledd difrifol (p’un a ydych yn cael Lwfans Gofalwr ai peidio).

Rhowch wybod am newid ar eich cyfrif Credyd Cynhwysol.

Bydd pa fudd-daliadau a gewch yn effeithio ar ba gredydau Yswiriant Gwladol rydych yn gymwys i’w cael. Os ydych yn cael:

  • Taliadau Lwfans Gofalwr rydych yn cael credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, sy’n eich helpu i fod yn gymwys ar gyfer rhai budd-daliadau eraill a Phensiwn y Wladwriaeth

  • Credyd Cynhwysol rydych yn cael credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3, sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth yn unig

Os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant

Rhaid i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EF (HMRC) i ddweud wrthynt am eich cais Lwfans Gofalwr.

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, bydd eich taliadau’n cynyddu os ydych yn gymwys am Lwfans Gofalwr.

Os ydych yn oedi gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth, gallai hyn gynyddu taliadau Pensiwn y Wladwriaeth a gewch pan fyddwch yn penderfynu gwneud cais amdano. Ni allwch gronni Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn ystod unrhyw gyfnod rydych yn cael Lwfans Gofalwr.

4. Gwneud cais

Cyn i chi wneud cais gwnewch yn siwr bod gennych:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol (os oes gennych bartner byddwch angen un nhw hefyd)

  • manylion banc neu gymdeithas adeiladu (oni bai eich bod yn cael Pensiwn y Wladwriaeth)
  • manylion cyflogaeth a slip cyflog diweddaraf os ydych yn gweithio
  • P45 os ydych wedi gorffen gweithio yn ddiweddar
  • manylion y cwrs os ydych yn astudio
  • manylion o unrhyw dreuliau, er enghraifft cyfraniadau pensiwn neu gost gofalu am eich plant neu’r person anabl tra’ch bod yn y gwaith

Byddwch hefyd angen manylion y person rydych yn gofalu amdanynt. Byddwch angen eu:

  • dyddiad geni a chyfeiriad
  • rhif Yswiriant Gwladol os ydynt yn 16 oed neu drosodd
  • cyfeirnod Lwfans Byw i’r Anabl os ydynt o dan 16 oed

Gallwch ôl-ddyddio eich cais am hyd at 3 mis.

Gwnewch gais nawr

Os ydych yn byw yn Ninas Dundee, Perth a Kinross neu Ynysoedd y Gorllewin, mae angen i chi wneud cais am Daliad Cymorth i Ofalwyr yn lle Lwfans Gofalwr.

Ffyrdd eraill i wneud cais

Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch wneud cais drwy’r post neu ffonio’r Uned Lwfans Gofalwr i ofyn am ffurflen.

Ymholiadau cyffredinol Ffôn: 0800 731 0297 Ffôn testun: 0800 731 0317 Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0297
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gwasanaeth cyfnewid fideo os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Carers Allowance Unit
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2AB

Cael help a chyngor

Gallwch gael cymorth a chyngor annibynnol gan:

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad ynglŷn â’ch cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.

5. Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae’n rhaid rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau os ydych yn hawlio neu wedi gwneud cais am Lwfans Gofalwr.

Gall newidiadau gynnwys:

  • dechrau swydd
  • dechrau neu orffen addysg llawn amser
  • newidiadau i’ch incwm
  • stopio bod yn ofalwr
  • nid yw’r person rydych yn gofalu amdanynt bellach yn cael eu budd-dal anabledd
  • rhywun arall sy’n gofalu am yr un person yn hawlio Lwfans Gofalwr yn eich lle
  • rhywun arall sy’n gofalu am yr un person yn hawlio’r elfen ofal o Gredyd Cynhwysol
  • newidiadau i’ch statws mewnfudo, os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os yw’r person rydych yn gofalu amdanynt yn marw.

Gallech gael eich erlyn neu’n gorfod talu cost ariannol os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu beidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.

Os ydych yn stopio rhoi gofal i rywun am gyfnod dros dro

Gallwch gael Lwfans Gofalwr o hyd os ydych yn stopio rhoi gofal am gyfnod dros dro. Mae hyn yn golygu unrhyw gyfnod pan rydych yn treulio llai na 35 awr yn gofalu ar gyfer y person arall.

Mae’n rhaid i’r person rydych yn gofalu amdanynt barhau i fod yn cael ei budd-dal anabledd.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i DWP os ydych yn stopio rhoi gofal am gyfnod dros dro a:

  • byddwch chi neu’r person rydych yn gofalu amdanynt mewn ysbyty, cartref gofal neu ofal seibiant am fwy na 12 wythnos
  • rydych yn stopio gofalu amdanynt am fwy na 28 diwrnod am unrhyw reswm arall

Os ydych wedi cael eich gordalu

Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os ydych:

  • ddim wedi rhoi gwybod am newid ar unwaith
  • wedi rhoi gwybodaeth anghywir
  • wedi eich gordalu mewn camgymeriad

Gwybodaeth am sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.

6. Os ydych yn gweithio

Gallwch weithio a chael Lwfans Gofalwr, cyn belled â’ch bod yn treulio o leiaf 35 awr yn eich rôl gofalu.

Gallwch gael cefnogaeth i chi neu’r person rydych chi’n gofalu amdano gan eich cyflogwr, cynghorau lleol a sefydliadau eraill.

Amser i ffwrdd ar gyfer argyfwng

Gallwch ofyn i’ch cyflogwr am amser i ffwrdd i ddelio ag argyfwng sy’n cynnwys rhywun arall sy’n dibynnu arnoch chi am ofal. Mae faint o amser i ffwrdd a gewch yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Os nad ydych yn gymwys i gael amser i ffwrdd, efallai y bydd eich cyflogwr yn caniatáu ‘absenoldeb tosturiol’ i chi ar gyfer sefyllfaoedd brys.

Gweithio hyblyg

Os oes angen i chi weithio’n fwy hyblyg, er enghraifft gweithio rhan amser neu weithio gartref, gallwch ofyn am weithio hyblyg.

Nid oes rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr am eich rôl gofalu na rhoi rheswm arall pam mae angen i chi weithio’n fwy hyblyg.

Gofal seibiant neu ofal ‘egwyl fer’

Os oes angen rhywun arnoch i helpu i ofalu am y person rydych chi’n gofalu amdano tra’ch bod chi yn y gwaith, gallwch wneud cais am ofal seibiant (a elwir hefyd yn ofal ‘seibiant byr’).

Mae’r opsiynau gofal seibiant yn cynnwys:

  • cael gofalwr â thâl neu wirfoddolwr i eistedd gyda’r person rydych yn gofalu amdano am ychydig oriau
  • lle rheolaidd mewn canolfan gofal dydd i’r person rydych yn gofalu amdano

Efallai y bydd eich cyngor lleol yn talu am ofal seibiant ond bydd angen asesiad arnoch chi a’r person rydych yn gofalu amdano cyn y gallwch wneud cais.

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gael gwybodaeth am gymorth lleol.

Cyngor ar ddechrau gweithio

Os oes angen help arnoch i ddechrau neu ddychwelyd i’r gwaith, cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith lleol i gael help ar sut i gyfuno gwaith â’ch cyfrifoldebau gofalu.