Hawlio ad-daliad Yswiriant Gwladol
Mae’r offeryn hwn yn eich helpu i wneud cais am ad-daliad o’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.
Yr hyn y mae angen i chi ei wybod
Mae gwahanol fathau o Yswiriant Gwladol (a elwir yn ‘dosbarthiadau’). Bydd gofyn i chi nodi’r dosbarth y mae’ch ad-daliad ar ei gyfer.