Cyllidebu ar gyfer eich bil treth Hunanasesiad os ydych yn hunangyflogedig

Defnyddiwch y cyfrifydd parod i’r hunangyflogedig er mwyn cyllidebu tuag at eich bil treth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

I gael syniad faint o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a 4 y byddwch yn eu talu, nodwch swm amcangyfrifedig eich elw misol neu wythnosol.

Dechrau nawr

Beth mae angen i chi wybod

Mae’r offeryn hwn yn tybio nad oes gennych ddim incwm trethadwy arall a’ch bod yn cael y Lwfans Personol safonol. Nid yw’n cynnwys taliadau y bydd yn rhaid i chi eu gwneud ar gyfer biliau blaenorol – gelwir hyn yn daliadau ar gyfrif.