Ad-daliadau TAW

Fel arfer, os ydych wedi codi llai o TAW ar eich cwsmeriaid nag yr ydych wedi ei thalu ar eich pryniannau, mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ad-dalu’r gwahaniaeth i chi.

Pan fyddwch yn llenwi’r blychau ar eich Ffurflen TAW, bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei nodi yn dangos i chi’r canlynol:

  • cyfanswm y TAW a godwyd — Blwch 3
  • cyfanswm y TAW a dalwyd — Blwch 4

Mae ad-daliad yn ddyledus i chi os yw’r ffigur ym Mlwch 3 yn llai na’r ffigur ym Mlwch 4.

Faint rydych yn cael eich ad-dalu yw’r ffigur a ddangosir ym Mlwch 5 o’ch Ffurflen TAW.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, caiff ad-daliadau eu gwneud cyn pen 30 diwrnod ar ôl i CThEF gael eich Ffurflen TAW.

Bydd eich ad-daliad yn mynd yn syth i’ch cyfrif banc os oes gan CThEF eich manylion banc. Fel arall, bydd CThEF yn anfon siec atoch (a elwir hefyd yn ‘archeb talu’). Gallwch newid y manylion y mae CThEF yn eu defnyddio i wneud eich ad-daliad.

Olrhain ad-daliad TAW

Gallwch olrhain ad-daliad TAW ar-lein.

Os nad ydych wedi cael gwybod unrhyw beth ar ôl 30 diwrnod

Cysylltwch â CThEF os nad ydych wedi clywed unrhyw beth ar ôl 30 diwrnod. Gallech gael iawndal os yw CThEF yn cymryd mwy na 30 diwrnod i gymeradwyo’ch ad-daliad.

Mae’r 30 diwrnod yn dechrau o’r diwrnod y mae CThEF yn cael eich Ffurflen TAW ac yn dod i ben ar y diwrnod y caiff eich ad-daliad ei gymeradwyo, nid ar y diwrnod y byddwch yn ei gael.

Nid yw CThEF yn cyfrif y dyddiau a gymerwyd i wirio bod eich Ffurflen TAW yn gywir ac yn gyfreithlon, nac yn cyfrif y dyddiau a gymerwyd i gywiro unrhyw wallau neu hepgoriadau, fel rhan o’r cyfnod 30 diwrnod hwn.

Os dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu ar neu cyn 31 Rhagfyr 2022

Cewch ‘atodiad ad-dalu’ wedi ei dalu i chi. Mae’r atodiad ad-dalu yn £50 neu 5% o’ch ad-daliad - pa bynnag yw’r swm uchaf.

Os daw eich Ffurflen TAW i law cyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu y mae ar ei gyfer, bydd y 30 diwrnod yn dechrau ar ddiwedd y cyfnod.

Ni chewch atodiad ad-dalu os, er enghraifft:

  • mae CThEF yn cael eich Ffurflen TAW ar ôl y dyddiad cau ar gyfer eich taliad
  • gwnaethoch wallau ar eich Ffurflen TAW sy’n gostwng eich cais mwy na 5% neu £250 (pa un bynnag sy’n uwch)
  • mae gennych Ffurflenni TAW cynharach ar goll ar yr adeg y bydd eich Ffurflen TAW presennol yn dod i law CThEF

Os dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023

Os bydd CThEF yn hwyr yn eich talu, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i log ar ad-daliadau ar unrhyw TAW sy’n ddyledus i chi gan CThEF.

Telir llog ar ad-daliadau ar gyfradd sylfaen Banc Lloegr minws 1%, gyda chyfradd isaf o 0.5%.

Ad-daliadau i gyfrif banc tramor

Gallwch ond gael ad-daliadau TAW wedi’u talu i gyfrif banc tramor os yw’r canlynol yn wir:

  • nid oes gan eich cwmni gyfrif banc y DU (ac nid ydych yn gallu cael un)
  • nid oes gan eich cwmni gyfeiriad yn y DU

Er mwyn i CThEF wneud taliad i’ch cyfrif banc tramor, mae’n rhaid iddo:

  • fod yn enw’r cwmni yr oedd ad-daliad yn ddyledus iddo
  • fod yn gysylltiedig â pherchennog busnes enwedig neu berson awdurdodedig gyda Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth
  • gallu derbyn ad-daliadau mewn punnoedd sterling

Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen i roi manylion eich cyfrif banc tramor cyn y gall CThEF drosglwyddo unrhyw ad-daliadau TAW. Caiff yr holl ad-daliadau TAW eu hanfon i’r cyfrif banc hwn.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen i newid sieciau heb eu cyflwyno i daliadau electronig i’ch cyfrif banc neu ddiweddaru’ch manylion banc.

Bydd angen ID Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn cyflwyno’ch gwybodaeth. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

Os oes angen siec newydd arnoch, neu os hoffech gael eich talu drwy ddull arall

Gallwch ysgrifennu at Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a gofyn iddynt wneud y canlynol:

  • anfon siec newydd atoch os yw’ch un chi ar goll neu’n rhy hen i fod yn ddilys
  • anfon yr ad-daliad i’r cyfrif banc sydd wedi’i gadw ar eich cyfrif treth busnes
  • anfon yr ad-daliad i rywle arall gan nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW bellach
  • defnyddio’r ad-daliad i dalu treth arall

Os nad ydych yn mynd i ddefnyddio’ch sieciau, neu os maent yn rhy hen i fod yn ddilys, mae’n rhaid i chi eu hanfon yn ôl atom.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST